Rydyn ni’n cefnogi sefydliadau ledled Cymru i ddefnyddio technolegau digidol.

Mae AMRC Cymru yn bartner allweddol yng Nghyflymydd Digidol a Chynhyrchiant SMART, menter a ariennir gan Lywodraeth Cymru i helpu busnesau i arloesi a thyfu. Rydyn ni’n cynnig cymorth ymarferol ac arbenigol i'ch helpu i ddefnyddio technolegau digidol i roi hwb i gynhyrchiant a chyflymu'r gwaith o ddatblygu cynnyrch newydd.

Sut rydyn ni'n eich helpu

Gan weithio gydag ITERATE Design and Innovation ac Enterprise Professional Services, rydyn ni’n cynnig gwasanaeth wedi'i ariannu'n llawn sy'n dechrau gyda phrawf diagnostig tri diwrnod. Byddwn yn gweithio gyda chi i nodi'r cyfleoedd a'r heriau unigryw y mae eich busnes yn eu hwynebu. Ar ôl y prawf diagnostig, gallwch gael hyd at bum niwrnod o gymorth gweithredu ychwanegol i roi ein hargymhellion ar waith.

Arbenigedd ar waith

Ein rôl ni yw defnyddio ein gwybodaeth drylwyr mewn meysydd fel Diwydiant 5.0, awtomatiaeth, gweithgynhyrchu haen-ar-haen a dylunio digidol yn uniongyrchol yn eich busnes.

Rydyn ni’n helpu sefydliadau yng Nghymru i ddiogelu eu gweithrediadau at y dyfodol, cynyddu gwydnwch a masnacheiddio eu datblygiadau arloesol yn llwyddiannus.

Mae’r rhaglen hon yn rhan graidd o Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru, gan weithio ochr yn ochr â Rhaglen Cymorth Arloesi Hyblyg SMART, i sbarduno twf economaidd cynaliadwy ar draws y rhanbarth.

Cysylltwch â ni i weld a yw eich busnes yn gymwys i gael cymorth drwy lenwi ein ffurflen gyswllt isod.